Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2021
Amser:
09.07 -
10.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11070
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Janet Finch-Saunders AS (Cadeirydd) Michelle Brown AS Neil McEvoy AS Jack Sargeant AS Leanne Wood AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Deisebau newydd COVID-19
2.1 P-05-1067 Caniatáu i bob siop sy’n gwerthu eitemau dianghenraid barhau i fasnachu yn ystod y cyfnod cyfyngiadau 17 diwrnod
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb ffurfiol i'r ddeiseb gan y Llywodraeth, a gofyn am farn bellach gan y deisebydd ar yr adeg honno, cyn ystyried a oes unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd.
2.2 P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
2.3 P-05-1082 Gadewch i gorau ymarfer dan do os ydyn nhw'n cynhyrchu asesiad risg llawn i atal haint C-19
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
2.4 P-05-1101 Caniatáu i gefnogwyr fynychu digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n aelod o fwrdd clwb pêl-droed yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gadw golwg ar y sefyllfa, yn sgil y newid yn y sefyllfa mewn perthynas â digwyddiadau chwaraeon ledled y DU, cyn ystyried y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.
At hynny, cytunwyd pan fydd y ddeiseb yn cael ei thrafod eto y bydd yn cael ei hystyried ochr yn ochr â'r ddeiseb P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i’r gemau.
2.5 P-05-1102 Caniatáu o leiaf un rhiant neu warcheidwad i wylio gemau pêl-droed sydd wedi'u trefnu i blant
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd, cyn ystyried a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
2.6 P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am ddadl Llawn ar y cyd ynghylch y ddeiseb hon a P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19.
2.7 P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am ddadl Llawn ar y cyd ynghylch y ddeiseb hon a P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth.
2.8 P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid!
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· gofyn am ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru eto;
· aros am ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar effaith Covid-19 ar iechyd meddwl; a
· cheisio amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch y ddeiseb.
2.9 P-05-1079 Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gorfforaeth Cynffig i geisio barn mewn ymateb i'r ddeiseb, a gofyn am ragor o wybodaeth cyn ystyried a oes unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd ynghylch y ddeiseb.
2.10P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i egluro gwerth unrhyw gyllid canlyniadol y mae wedi'i gael o ganlyniad i wariant ar y mater hwn gan Lywodraeth y DU, ac i ba ddiben y defnyddiwyd y cyllid hwn;
· ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i rannu manylion y ddeiseb gyda nhw yng nghyd-destun y gwaith y mae wedi bod yn ymwneud ag ef, mewn perthynas â diogelwch tân mewn blociau preswyl uchel;
· aros am farn y deisebydd ar yr ymateb manwl a roddwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a rhannu'r safbwyntiau hynny â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
2.11P-05-1088 Dylid sbarduno is-etholiad ar gyfer Aelodau sy'n dymuno newid eu hymlyniad o ran plaid
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi newid ei ymlyniad o ran plaid yn ystod tymor y Senedd hon.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yn sgil yr ymateb a gafwyd, pa mor agos yw etholiad nesaf y Senedd a'r ffaith y byddai’n amhosibl, o ganlyniad, i roi newid o'r fath ar waith ar ffurf deddfwriaeth sylfaenol ar yr adeg hon, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
2.12P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei gefnogaeth i'r ddeiseb, yn ogystal â'r tebygolrwydd y bydd Corff Adolygu Cyflogau'r GIG yn adrodd ar ei argymhellion ddechrau mis Mai. Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w ohebiaeth bellach ddiweddar ar ddeiseb P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19 ac ystyried y deisebau gyda'i gilydd yn y dyfodol.
2.13P-05-1091 Dileu Bagloriaeth Cymru orfodol i fyfyrwyr sydd am fynd i'r Brifysgol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am safbwyntiau pellach gan y deisebydd, cyn ystyried a all gymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
2.14P-05-1093 Sefydlu Asiantaeth Gorfodi ym maes yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt yng Nghymru i ymdrin â throseddau amgylcheddol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil cefnogaeth y deisebydd i gyhoeddiad arfaethedig y Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon at ddibenion ymgynghori – a'r tebygolrwydd na fyddai'n gallu gwneud cynnydd pellach ar y mater a godwyd gan y ddeiseb ar yr adeg hon – cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i rannu barn y deisebydd gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
2.15P-05-1096 Dileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o’r elfen orfodol o Fil Cwricwlwm 2020
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil y gwaith craffu parhaus ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac yn y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn – yn ogystal â'r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd i'r Aelodau ddiwygio'r Bil – cytunodd y Pwyllgor i gadw golwg ar y ddeiseb.
2.16P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig er mwyn:
· rhannu'r sylwadau pellach a gafwyd gan y deisebwyr;
· ceisio diweddariad ar yr adolygiad o'r Cod Ymarfer a roddwyd ar waith yn 2019, ac unrhyw waith ymchwil pellach sy'n cael ei ystyried ar y mater hwn; a
· cheisio eglurhad o ran pam nad yw'r Gweinidog yn bwriadu cymryd camau pellach i wahardd yr arfer o gewyllu adar at y diben hwn.
2.17P-05-1115 Atal fferm solar anferth fydd yn dinistrio dolydd hynafol ger y Fenni
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd ei bod yn debygol na fyddai llawer o gamau ymarferol pellach y gallai eu cymryd ar hyn o bryd, gan fod y broses gynllunio ffurfiol – sy'n rheoli’r broses o ystyried ceisiadau am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol – wedi ei rhoi ar waith. Cytunodd yr Aelodau i gadw golwg ar y ddeiseb tan ddiwedd tymor y Senedd hon.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a ddaeth i law, ynghyd â’r wybodaeth lefel uchel a ddarparwyd ynghylch presenoldeb asbestos mewn adeiladau ysgolion yng Nghymru. Gwnaeth y Pwyllgor gydnabod nad yw hyn yn diwallu holl ofynion y deisebydd, fodd bynnag, yn sgil yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r ddeiseb hon ers ei chyflwyno yn y lle cyntaf, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach o ddefnydd y byddai’n gallu eu cymryd ar yr adeg hon. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
3.2 P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn a yw wedi ymgymryd ag unrhyw waith ynghylch gweithredu canllawiau NICE yn ystod y Senedd hon, neu a fyddai hwn yn faes y byddai'n ystyried ei argymell i bwyllgor olynol yn y Chweched Senedd. Yn dilyn hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
3.3 P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a mynegodd ei siom nad yw cynllun o'r math hwn yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am esboniad a gwybodaeth fanylach am yr opsiynau a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru, mewn perthynas ag ymarferoldeb a chostau sefydlu cynllun i dalu costau angladdau gweithwyr y GIG sy’n marw o COVID-19 neu gyda’r feirws.
3.4 P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn am ddiweddariad ar y gwaith gwella diogelwch a gynlluniwyd ar gyfer y rhan hon o'r A487, a gwybodaeth am unrhyw fesurau pellach sydd o dan ystyriaeth.
3.5 P-05-993 Gwnewch y sector manwerthu’n gwbl hygyrch i bobl anabl
Trafododd y Pwyllgor y materion a godwyd ac, yn sgil ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a bennwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn dilyn ei ymchwiliad i anghydraddoldeb yn ystod pandemig Covid-19, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
3.6 P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i ofyn am ddiweddariad pellach gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar unrhyw drafodaethau ynghylch y materion hyn a gynhaliwyd gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Chymdeithas Milfeddygon Prydain.
3.7 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru a P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.
Trafododd y Pwyllgor y datganiadau a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am eglurhad ynghylch pryd y byddai deddfwriaeth o'r fath i wahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach yn cael ei chyflwyno.
DS. Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddodd y Gweinidog Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021 ar 27 Ionawr 2021.
3.8 P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy) a P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi.
Trafododd y Pwyllgor y datganiadau a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am eglurhad ynghylch pryd y byddai deddfwriaeth o'r fath i wahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach yn cael ei chyflwyno.
DS. Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddodd y Gweinidog Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021 ar 27 Ionawr 2021.
3.9 P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi
Ystyriwyd y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r deisebau P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru a P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y datganiadau a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am eglurhad ynghylch pryd y byddai deddfwriaeth o'r fath i wahardd gwerthu cŵn bach a chathod bach yn cael ei chyflwyno.
DS. Yn dilyn y cyfarfod cyhoeddodd y Gweinidog Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021 ar 27 Ionawr 2021.
3.10P-05-996 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â symud, difrodi na dinistrio unrhyw symbolau hanesyddol yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd – yn sgil gwaith sy'n cael ei gynnal ar y mater, gan gynnwys ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Derbyniwyd y cynnig.
5 Paratoadau ar gyfer diwedd y 5ed Senedd
Trafododd y Pwyllgor nifer o faterion yn ymwneud â chwblhau ei waith cyn diwedd y 5ed Senedd a chytunodd i gynghori’r Llywydd y dylid cau'r broses ddeisebau yn ystod y diddymiad, neu ar unrhyw adeg pan nad yw busnes rheolaidd y Senedd yn cael ei gynnal.